Simon Easterby
Mae nifer o chwaraewyr rhyngwladol allweddol yn dechrau ymsyg y blaenwyr i’r Scarlets yn y gystadleuaeth Pro12 yn erbyn Benetton Treviso yfory.
Mae’n rhaid i’r Scarlets sydd yn seithfed safle ennill y gêm hon os ydynt am lwyddo i gyrraedd y pedwar tîm ar y brig. Ar hyn bryd maent 14 o bwyntiau y tu ôl i Ulster sydd yn y pedwerydd safle.
‘‘Yr ydym wedi siarad fel tîm am ein safle presennol. Mae gennym ddeg gêm ar ôl yn y gystadleuaeth ac yr wyf yn hyderus y cawn y canlyniadau cywir. Dyma’r her sydd i ni fel carfan,’’ meddai prif hyfforddwr y Scarlets, Simon Easterby.
Mae Jordan Williams yn cadw ei le fel cefnwr a bydd Kristian Phillips a Gareth Maule yn dychwelyd ar ôl anafiadau. Mae Adam Warren yn disodli Gareth Owen yn y canol a Aled Thomas fydd yn dechrau fel maswr.
Phil John, Kirby Myhill a Jacobie Adriaanse fydd aelodau’r rheng flaen a George Earle a Richard Kelly fydd y ddau glo. Josh Turnbull, John Barclay â’r Capten Rob McCusker fydd aelodau profiadol y rheng-ôl.
Mae’r bachwr Emyr Phillips a’r prop Samson Lee wedi dychwelyd o garfan Cymru a bydd y ddau ar y fainc.
“R’yn ni’n ymwybodol o’r her fydd yn ein hwynebu, a bydd yn rhaid cymryd Treviso o ddifrif neu fe allwn fod mewn trafferth,” meddai. “Er bod nifer o chwaraewyr dylanwadol yn absennol o’r ddau dîm, yr wyf yn hyderus y cawn ganlyniad da,’’ ychwanegodd Easterby.
Tîm y Scarlets
Olwyr – Jordan Williams, Kristian Phillips, Gareth Maule, Adam Warren, Frazier Climo, Aled Thomas a Gareth Davies.
Blaenwyr – Phil John, Kirby Myhill, Jacobie Adriaanse, George Earle, Richard Kelly, Josh Turnbull, John Barclay a Rob McCusker (Capten).
Eilyddion – Emyr Phillips, Rob Evans, Samson Lee, Johan Snyman, Lewis Rawlins, Aled Davies, Josh Lewis a Gareth Owen.