Mae rheolwr tîm pêl-droed Caerdydd, Ole Gunnar Solskjaer, wedi cyfaddef ei fod yn edrych ymlaen at y gêm ddarbi yn erbyn Abertwe yfory.
Mae Solskjaer – er pan oedd yn chwarae i Manchester United wedi chwarae mewn gemau darbi mawr yn erbyn Lerpwl a Manchester City – yn gwybod pwysigrwydd gêm yfory ac yn gobeithio y bydd Caerdydd yn gwneud y dwbwl dros yr Elyrch ar ôl eu curo gartref ar ddechrau’r tymor.
“R’yn ni’n dyheu am greu hanes trwy gyflawni y dwbwl. Mae’r bechgyn am guro Abertawe. Mae’n golygu llawer i’r cefnogwyr ac i chwaraewyr fel Craig Bellamy a Declan John ond yr wyf wedi dweud wrthynt am ymlacio a chanolbwyntio ar y gêm,’’ meddai Solskjaer.
Dywedodd blaenwr newydd Caerdydd, Kenwyne Jones a sgoriodd yn ei gêm gyntaf i’r clwb yn y fuddugoliaeth yn erbyn Norwich ac sydd wedi chwarae mewn gêm ddarbi gyda Sunderland yn erbyn Newcastle United.
‘‘Fe gefais ddechrau arbennig gyda Caerdydd gan sgorio gôl. Gobeithio y medrwn fynd o nerth i nerth. Mae’n bwysig ein bod yn chwarae’r gêm ac nid yr achlysur yfory,’’ meddai Jones.