Blogiwr rygbi Golwg 360 Illtud Dafydd sy’n edrych ar gyflwr rygbi yng Nghymru ac Iwerddon….
Ers i’r Cymro Vernon Pugh a gweddill Cyngor y Bwrdd Rygbi Rhyngwladol benderfynu ar Awst y 25ain y byddai rygbi’r undeb yn mynd o fod yn gêm amatur i fod yn gem “agored” a phroffesiynnol mae’r heol y mae rygbi Cymru drwy Undeb Rygbi Cymru (URC) a rygbi Iwerddon drwy Undeb Rygbi Iwerddon (IRFU) wedi ei theithio wedi croesi sawl tro. Fe gynhaliwyd Cwpan Rygbi’r Byd gan Gymru yn 1999 (Y cyntaf gyda chwaraewyr proffesinyol yn cymryd rhan) gyda 7 gem yn cael eu chwarae ar yr Ynys Werdd (Dulyn, Belffast a Limeric), mae Munster (dwywaith) a Leinster (unwaith) wedi codi tlws Cwpan Heineken Ewrop ar gae cenedlaethol y Cymry. Ers 2001 mae cynrichiolaeth proffesiynol y ddau undeb wedi herio eu gilydd yn y Gynghrair Geltaidd ac yn 2009 fe gipiodd Iwerddon, gyda Decaln Kidney wrth y llyw ei Champ Lawn gyntaf ers 1948 yn Stadiwm y Mileniwm.
Mae un pwnc ble mae’r ddau undeb wedi gweld eu penderfyniadau a’u gweithredoedd yn gwahaniaethu, pwnc sydd wedi derbyn mwy o sylw yn y misoedd diwethaf gyda thrwbwl presennol gwleidydda rygbi Ewrop sef y dull y mae’r ddwy wlad yn trin ei cynrichiolaeth professiynol ar lefel cenedlaethol, boed hynny’n glybiau, taleithiau neu rhanbarthau ac hefyd y chwarewyr.
Ers yr 1920au roedd y taleithiau Gwyddelig (Munster, Leinster, Ulster ac Connacht) wedi bod yn cystadlu a herio ei gilydd mewn pencampwriaethau rhyng-taleithiol ond ers 2001 fe ymunodd y Gwyddelod a’r Cymry (a’r Albanwyr hefyd) gan greu y Gynghrair Geltaidd. Yn ystod yr un adeg o dros degawd mae’r URC wedi cyflwyno naw o glybiau hanesyddol rygbi’r wlad i’r un gynghrair, yna ei eilyddio gyda pum “rhanbarth” a oedd yn cyfuno sawl un o’r naw clwb ac erbyn heddiw dim ond pedawr rhanbarth sy’n dal i fodoli, gyda’r dyfodol yn edrych yn un tywyll, cymylog ac anrhagweladwy i’r Dreigiau, Y Gleision, Y Gweilch a’r Scarlets. Mae’r bedair talaith Gwyddeleg wedi ennill 6 teitl Ewropeaidd (Munster 2 Cwpan Heineken, Leinster 3 Cwpan Heineken ac 1 Cwpan Her Amlin ac yna Ulster yn cipio’r Cwpan Heineken dros degawd yn ol) ac 7 teitl Celtaidd/Rabo Pro 12. Ar y llaw arall, er llwyddiant cymhedrol y rhanbarthau yn y Gynghrair Gelataidd/Rabo Pro 12 gyda pum teitl drwy y Gweilch (pedwar gwaith) a’r Scarlets (unwaith) ond un cwpan Ewropeaidd sydd wedi’w godi, Cwpan Her Amlin gan Gleision Caerdydd yn 2009.
Elfen arall o’r trefniant oddi ar y cae gan yr undebau yw’r dull y maent wedi trin ac hefyd talu eu chwarewyr. Ers trothwy proffesiynoldeb mae’r IRFU wedi cyflwyno a pharhau a pholisi o arwyddo ei chwarewyr gorau i “gytundebau canolog”. Yn fras mae’r cytundebau yma yn cael eu cynnig i chwarewyr sydd yn siwr o gael ei henwi yn y garfan genedlaethol (gan ystyried anafiadau hefyd) ac yn chwarae dros un o’r pedair talaith (Er hyn nid yw Connacht wedi arwyddo chwarewr ar gytundeb canolog o’r IRFU). Mae chwarewyr fel Johnnny Sexton, Brian O’Discoll ac hyd oed Dennis Leamy wedi eu gwobrwyo gyda chytundebau sy’n golygu eu bod yn chwarae yn ei gwlad ac eleni mae Sean O’Brien, Jamie Heaslip a Connor Murray wedi arwyddo rai newydd, Murray, un am y tro cyntaf tra bod sawl Cymro o’r un safon, ac o’r un pwysigrwydd i’r garfan genedlaethol, fel Leigh Halfpenny, Ian Evans a Jonathan Davies wedi arwyddo cytundeb gyda chlybiau yn Ffrainc. Nid oes unrhyw ddatganiad swyddogol wedi ei gyhoeddi gan yr IRFU am werth y cytundebau canolog yma, gan wybod ei bod yn gwynebu her gan glybiau tramor i arwyddo ei chwarewyr, mae’n rhaid ei bod yn werth cryn dipyn. Gan gymryd esiampl y Gwyddeldod mae cytundebau canolog i’w gweld fel dull i gadw talent cartref i chwarae ar gaeau cartref (sydd hefyd yn atynnu mwy o gefnogwyr i’r gwahanol feysydd chwarae). Mae hyn yn golygu bod y chwaraewyr ar gael yn rhwyddach i’r hyfforddwr cenedlaethol gan godi safon a llwyddiant ar lefel cenedlaethol Celtaidd neu Ewropeaidd.
Nid ond brwydr ar y cae fydd hi bryhawn Sadwrn ar yr AVIVA, ond un o wleidydda ac chytundebau mewn swyddfeydd ac ystafelloedd gwesty milltiroedd i ffwrdd o unhryw byst rygbi. Gêm ydyw hi, ond ydy arian yn cael gormod o argraff arni?