Rhys Priestland
Fe fydd Cymru ac Iwerddon yn edrych at adeiladu ar eu buddugoliaethau y penwythnos diwethaf yn Nulyn brynhawn yfory.
Mae nifer o’r chwaraewyr yn adnabod ei gilydd yn dda wrth chwarae yn y Pro 12 a bod yn ffrindiau ar daith y Llewod yn 2013. Heb amheuaeth fe fydd yr Iwerddon yn barod am yr her o geisio atal Cymru ennill y bencampwriaeth y drydedd blwyddyn yn olynol.
‘‘Mi fydd hi’n ffyrnig allan yna ac yr ydym yn disgwyl iddynt daflu popeth atom,” meddai maswr Cymru, Rhys Priestland.
“Ar yr un pryd r’yn ninnau hefyd yn barod i roi ein gorau gan fod cynrychioli Cymru yn golygu cymaint i ni. Yr ydym yn edrych ymlaen i brofi ein hunain yn erbyn tîm a fu bron a churo’r Crysau Duon. Mae hi yn mynd i fod yn her enfawr i ni.
‘‘Efallai mai hon fydd gêm anodda’r bencampwriaeth i ni a bydd yn rhaid i ni fod ar ein gorau wrth amddiffyn a bydd angen gwella pan fydd y bêl gennym yn ein dwylo,’’ ychwanegodd Priestland.