Mae rheolwr dros dro Abertawe Garry Monk yn barod i wneud ei benderfyniadau mawr cyntaf ers bod yng ngofal y clwb.

Cafodd ei benodi yn hyfforddwr dros-dro yr wythnos hon yn dilyn diswyddo Michae Laudrup, a hynny ddyddiau yn unig cyn y gêm ddarbi fawr yn erbyn Caerdydd.

Gan fod y blaenwr Michu a’r gôl-geidwad Michel Vorm nôl yn ymarfer yn dilyn anafiadau mae Monk am benderfynu os ydynt yn barod i chwarae dydd sadwrn er nad yw un o’r ddau wedi chwarae ers y gêm gyfartal 1-1 yn erbyn Norwich ar 15fed o Rhagfyr.

Gan fod angen y pwyntiau yn fawr ar y ddau dîm mae Monk yn barod i aros hyd y funud olaf i’r ddau brofi eu ffitrwydd ar gyfer y gêm. Hefyd mae ganddo benderfyniad i’w wneud ynglŷn a Jonjo Shelvey a adawodd y cae ag anaf yn erbyn West Ham wythnos yn ôl mewn gêm siomedig gyda’r Elyrch yn colli 2-0.

‘‘Nid yw Jonjo wedi bod yn ymarfer a bydd yn rhaid gweld sut mae’n teimlo dydd Iau. Mae Vorm wedi ymarfer dydd Mercher a dydd Iau a byddaf yn cael gair gyda’r hyfforddwr Adrian Tucker am ei gyflwr. Mae Michu wedi bod yn ymarfer gyda ni a bydd yn rhaid asesu lefel ei ffitrwydd a’i gyflwr dydd Gwener,’’ dywedodd Garry Monk.

Os y bydd amheuon am ffitrwydd Vorm, Gerhard Tremmel fydd yn y gôl, ac mae Bony wedi chwarae’n dda yn absenoldeb Michu.