Mae Rob Howley wedi dweud wrth fewnwr Cymru Mike Phillips i osgoi brwydr bersonol gyda Connor Murray mewnwr Iwerddon yfory.
Yr oedd y ddau yn ymladd am y crys rhif 9 ar daith y Llewod yn 2013. Yn ôl Howley mae’n rhaid i Mike chwarae gêm ei hun a pheidio cael ei dynnu i frwydr bersonol gan Murray.
‘‘Yr oedd Connor Murray yn chwaraewr arbennig yn ystod taith y Llewod. Mae gennyf lawer o barch iddo ac yn edmygu ei waith caled. Mi fydd yn dipyn o her i Mike ac fe fydd yn rhaid iddo ganolbwyntio ar ei gêm gan wneud yr hyn sydd orau i’r tîm,” meddai Howley, sydd yn gyn-fewnwr i Gymru a’r Llewod.
“Bydd angen i Mike gael gwell gêm yfory nac yn erbyn Yr Eidal. Mae ei gêm o basio hir yn bwysig i ni fel tîm ac yr wyf yn gobeithio gweld mwy o hynny yn erbyn yr Iwerddon.”
Yn ôl Howley fe fydd y profiad a gafodd nifer o’r chwaraewyr gyda’r Llewod o gymorth iddynt mewn gêm fel hon. Bydd Cymru yn gobeithio am ail fuddugoliaeth a fydd yn mynd a nhw gam yn agosach at y drydedd bencampwriaeth o’r bron.
‘‘Mae’n siwr y bydd y Gwyddelod yn teimlo’n hyderus iawn ar ôl ei perfformiad yn erbyn yr Albanwyr. Er i ni fod yn siomedig gyda rhai agweddau o’n chwarae yn ystod ail hanner y gêm yn erbyn yr Eidal yr ydym wedi gweithio’n galed yn ystod yr wythnos. Mae’r gêm yn erbyn yr Iwerddon bob amser yn galed ac yn anodd,’’ ychwanegodd Howley.
Er bod llawer wedi ei wneud o berthynas Gatland a Brian O’Driscoll ar ôl i’r Gwyddel golli ei le yn y 22 ar gyfer y prawf olaf mae Howleywedi dweud bod Gatland wedi paratoi yr un fath at y gêm hon a phob gêm arall gan siarad a’r chwaraewyr a gwneud yn siwr bod popeth yn iawn i’r garfan.