Mae bom wedi ffrwydro yn ninas Giza yn yr Aifft, gan anafu tri heddwas.

Fe ddaeth cadarnhad fod y ffrwydriad wedi taro lori a oedd yn berchen i’r llu diogelwch a oedd yn gweithio ar bont yn y ddinas.

Mae cynnydd wedi bod yn nifer yr ymosodiadau ar yr heddlu a’r fyddin ers i arlywydd Islamaidd y wlad, Mohammed Morsi, gael ei ddymchwel fis Gorffennaf diwetha’.

Mae grwp o wrthryfelwyr o ardal Sinai, sy’n dweud eu bod yn dwyn eu “hysbrydoliaeth” gan al Qaida, wedi hawlio cyfrifoldeb am nifer o’r ymosodiadau.

Yr wythnos ddiwetha’, fe hawliodd grwp newydd o’r enw Ajnad Misr (yn Arabeg, Milwyr yr Aifft) gyfrifoldeb hefyd am nifer o ffrwydriadau tebyg.