Mae’r Swyddfa Dywydd wedi rhybuddio pobol de Cymru, yn arbennig, i fod yn wyliadwrus dros y Sul, gan fod stormydd mawr ar y ffordd.

Mae’r prif rybuddion ar gyfer y de, ond mae rhybuddion llifogydd hefyd mewn grym ar gyfer pob rhan o Gymru. Fe fydd y tywydd ar ei waetha’ nos Sadwrn, meddai’r Swyddfa Dywydd, wrth i wyntoedd gyrraedd cyflymder o tua 80 milltir yr awr.

“Fe ddylai’r cyhoedd fod yn barod am anghyfleustra, wrth i wasanaethau a thrafnidiaeth gyhoeddus gael eu heffeithio gan y tywydd,” meddai’r rhybudd. “Fe fydd tai’n colli eu cyflenwad trydan hefyd.”

Llifogydd

Mae rhybuddion mewn grym ar gyfer yr ardaloedd canlynol o Gymru:

* Gwaelod Dyffryn Dyfrdwy – rhwng Llangollen a Threfalyn;

* Pen ucha’ Dyffryn Dyfrdwy – o Lanuwchllyn i Langollen, yn cynnwys tre’ Corwen;

* Dyffryn afon Dyfi;

* Ardaloedd Mawddach ac Wnion;

* Pen ucha’ afon Hafren ym Mhowys;

* Ardal afon Efyrnwy;

* Afon Wysg yn Sir Fynwy a Chasnewydd;

* Afonydd Gwy a Mynwy yn Sir Fynwy;

* Afon Gwy ym Mhowys;

* De Sir Benfro.