Bashar Assad
Daeth y cyfarfod cyntaf i drafod trosglwyddo grym gwleidyddol yn Syria i ben o fewn awr yn ystod y trafodaethau heddwch yn Genefa.

Mae llywodraeth Syria wedi nad yw’n fodlon trafod olynydd i Bashar Assad fel arweinydd y wlad. Ond mae’r gwrthryfelwyr yn mynnu bod yn rhaid iddo gamu i lawr er mwyn sefydlu corff llywodraethu, gyda phwerau gweithredol llawn, a fyddai’n arwain y wlad nes bod etholiadau’n cael eu cynnal.

Llwyddodd llysgennad y Cenhedloedd Unedig, Lakhdar Brahimi, i gael y ddwy ochr i eistedd yn yr un ystafell dros y penwythnos gyda’r gobaith o drafod cymorth dyngarol i ardaloedd dan warchae yn Homs a’r posibilrwydd o gyfnewid carcharorion.

Bwriad y  trafodaethau yw dod a thair blynedd o wrthryfela i ben ond mae’n rhaid i’r ddwy ochr gytuno ar y ffordd ymlaen ynglŷn â sut i reoli’r wlad.