Francois Hollande
Ym Mharis cafodd 19 o blismyn eu hanafu a tua 250 o bobl eu harestio yn ystod protest yn erbyn arweinyddiaeth yr Arlywydd Francois Hollande, meddai’r heddlu.
Roedd y brotest yn fwy treisgar na’r rhai sydd wedi eu cynnal dros yr wythnosau gan brotestwyr sy’n feirniadol o bolisïau economaidd Francois Hollande.
Dywed yr heddlu bod 17,000 o bobl wedi cymryd rhan yn y brotest ddoe a oedd, ar y cyfan, yn heddychlon. Ond mae’r trefnwyr wedi dweud bod y ffigwr yn llawer uwch.