Mae dros ddwy ran o dair o bobol Cymru yn poeni am y cynnydd mewn biliau ynni dros y flwyddyn nesaf, yn ôl Cyngor ar Bopeth.
O ganlyniad fe fydd mudiad gwirfoddol yn lansio ymgyrch, ‘Wythnos Fawr Arbed Ynni’, yr wythnos hon er mwyn cynnig cyngor i bobol ar sut i gwtogi eu biliau ynni.
Mae arolwg gan Gyngor ar Bopeth hefyd wedi darganfod fod 54% o bobol yn poeni y bydd yn rhaid iddyn nhw wario llai ar fwyd er mwyn ymdopi hefo’r costau uchel.
Mae’r ymgyrch, sy’n cael ei ariannu gan y cwmnïau ynni mawr a’i gefnogi gan Lywodraeth San Steffan, yn annog pobol i ail edrych ar eu biliau a newid i’r cyflenwr rhataf.
Arbed
Dim ond chwarter o bobol a fu’n cymryd rhan yn yr arolwg oedd wedi siarad â’u cwmnïau ynni i geisio cael y prisiau rhataf posib, a dim ond 17% oedd wedi insiwleiddio eu cartrefi.
Fel ffordd o arbed ynni, roedd 52% o bobol Cymru wedi bod yn troi’r gwres i lawr yn eu cartrefi, 56% wedi ceisio defnyddio llai o drydan ac un mewn pump wedi stopio defnyddio rhai ystafelloedd yn eu cartref.
Dywedodd Fran Targett, cyfarwyddwr Cyngor ar Bopeth Cymru: “Mae hi’n bryderus iawn fod costau byw yn rhoi pobol o dan gymaint o bwysau fel bod rhai yn meddwl symud tŷ er mwyn ymdopi hefo’r biliau uchel.”
Dywedodd y Gweinidog Bwyd ac Adnoddau Naturiol, Alun Davies, y bydd £36 miliwn yn cael ei wario ar gynllun effeithiolrwydd ynni, gan obeithio gwneud newidiadau mewn tua 9,000 o dai, a fyddai’n arbed hyd at £500 y flwyddyn ar gostau ynni.
‘Gwahaniaethu yn erbyn Cymru’
Mae Llywodraeth Prydain eisoes wedi annog y chwe chwmni ynni mawr – RWE, Centrica, EDF. E.On, Npower, Scottish Power a SSE – i gadw eu prisiau’r un fath tan yr Etholiad Cyffredinol yn 2015 – os na fydd pris crai tanwydd yn codi.
Ond mae ffigyrau a gafodd eu cyhoeddi ym mis Tachwedd gan Lywodraeth Prydain yn dangos fod Cymru’n wynebu prisiau trydan uwch na phob rhan arall o Brydain, ar wahân i Ogledd Iwerddon.
Yn ôl y ffigurau, mae cwsmeriaid yng Nghymru’n wynebu bil trydan ar gyfartaledd o £503, o’i gymharu â chyfartaledd o £479 i ardaloedd eraill o Brydain.
Dywedodd ymgeisydd Cynulliad Plaid Cymru yn Abertawe, Dr Dai Lloyd bod y cwmnïau ynni mawr yn “gwahaniaethu” yn erbyn Cymru.