Mae stad o argyfwng wedi cael ei gyhoeddi ar ynys Kefalonia yng Ngwlad Groeg yn dilyn daeargryn sydd wedi difrodi tai ac anafu o leiaf saith o bobl.
Bu cannoedd o drigolion yr ynys yn cysgu yn eu ceir ar ol y daeargryn, a oedd yn mesur 5.8, yn nhref Lixouri.
Mae ysgolion wedi cael eu gorfodi i gau a dywed swyddogion bod dwy long fferi ar eu ffordd i’r ynys er mwyn rhoi lloches i’r trigolion.
Mae daeargrynfeydd yn gyffredin yng Ngwlad Groeg. Bu difrod sylweddol yn Kefalonia ac ynys Zakynthos gerllaw ar ol daeargryn oedd yn mesur 7.2 ym 1953.