Mae 21 o bobl wedi marw ac 20 wedi’u hanafu ar ôl i fws wyro oddi ar y ffordd yn Nhwrci cyn glanio ar ei ochr.

Roedd y bws yn teithio o Istanbwl i dalaith Mus, pan ddigwyddodd y ddamwain yng nghanol talaith Kayseri.

Mae ymchwiliad ar y gweill i geisio darganfod beth achosodd y ddamwain – dyw hi ddim yn glir ar hyn o bryd a oedd  eira a niwl wedi bod yn ffactor.