Nick Clegg dan bwysau
Mae Nick Clegg yn wynebu rhagor o drafferthion o fewn ei blaid ar ôl i aelod arall, yr AS Mike Hancock, gael ei wahardd gan y Democratiaid Rhyddfrydol yn dilyn adroddiad ynglŷn â’i ymddygiad rhywiol.

Yn ôl yr adroddiad roedd tystiolaeth yn bodoli o “ymddygiad rhywiol difrifol” gan Mike Hancock tuag at etholwraig.

Fe gymerodd y blaid gamau ar ôl i’r adroddiad, oedd heb gael ei gyhoeddi’n swyddogol, gael ei gyhoeddi ar-lein.

Cafodd yr adroddiad ei wneud gan Gyngor Dinas Portsmouth, ble mae Mike Hancock yn gynghorydd – ond mae aelodau lleol y blaid nawr wedi beirniadu’r Democratiaid Rhyddfrydol am weithredu cyn i’r ymchwiliad ddod i ben.

“Mae achos sifil yn parhau ynglŷn â’r materion a godwyd yn y cwynion i Gyngor Dinas Portsmouth ac i’r Democratiaid Rhyddfrydol yn genedlaethol,” meddai Simon Dodd, cadeirydd y blaid ym Mhortsmouth.

“Yn ogystal â hyn, mae’r heddlu wedi ymchwilio i’r gwyn hon ddwywaith a heb weld achos i barhau ar y ddau achlysur.

“Rydym ni’n credu mewn dilyn y broses gywir a gan fod achos llys yn parhau, y llys ddylai ddyfarnu’n gyntaf, ar ôl ystyried yr holl dystiolaeth, nid y cyfryngau na phaneli mewnol.”

Mae ’na rwyg o fewn  Democratiaid Rhyddfrydol eisoes ynglŷn ag achos yr Arglwydd Rennard, a gafodd ei wahardd gan y blaid am wrthod ymddiheuro i bedair dynes oedd wedi’i gyhuddo o ymddygiad rhywiol amhriodol tuag atynt.

Mae’r Arglwydd Rennard yn gwadu’r cyhuddiadau hynny, gydag ymchwiliad mewnol y blaid yn canfod fod yr honiadau yn gredadwy, ond nad oedd digon o dystiolaeth i barhau â chamau disgyblu.