Fe fydd y Llywodraeth yn cyhoeddi’r rownd olaf o ddiswyddiadau yn y Fyddin heddiw, gan ddod a chyfnod o “ansicrwydd sylweddol” i ben, yn ôl pennaeth y Fyddin.

Fe fydd yr Ysgrifennydd Amddiffyn Philip Hammond yn rhyddhau manylion am y diswyddiadau yn Nhŷ’r Cyffredin.

Yn ôl adroddiadau, fe fydd catrawd y Gyrcas yn cael eu heffeithio gan y diswyddiadau heddiw.

Mae’r fyddin yn cael ei chwtogi o 102,000 i 82,000 erbyn 2020. Mae miloedd o swyddi eisoes wedi cael eu colli yn ystod y tair blynedd ddiwethaf.