Mae arweinwyr y ddwy ochr sy’n brwydro yn erbyn ei gilydd yn Ne Swdan, wedi dweud eu bod nhw’n agos at gytuno ar gadoediad.
Yn y cyfamser, mae llefarydd ar ran y fyddin yn dweud eu bod nhw wedi cipio dinas Bor heddiw, gan oresgyn 15,000 o wrthryfelwyr.
Yn Ethiopia, lle mae’r trafodaethau rhwng y ddwy ochr yn cymryd lle, mae cynrychiolydd y gwrthryfelwyr, Mabior de Garang, yn dweud ei fod yn gobeithio y bydd y cytundeb yn cael ei arwyddo heno.
Yn Juba, prifddinas De Swdan, mae llefarydd ar ran yr arlywydd wedi dweud ei fod yn credu y bydd cytundeb yn cael ei arwyddo ddydd Sul neu ddydd Llun.
Fe ddechreuodd yr ymladd ar Ragfyr 15 y llynedd, gan ymledu trwy’r wlad. Mae miloedd o bobol wedi’u lladd, ar y ddwy ochr.