Mae dau ddisgybl ysgol uwchradd yn Philadelphia wedi’u saethu – ac mae’r heddlu’n amau mai cyd-ddisgybl sy’n gyfrifol.

Fe ddigwyddodd y saethu yn hwyr brynhawn Gwener yn Delaware Valley Charter School yng ngogledd Philadelphia.

Fe gafodd merch a bachgen eu saethu yn eu braich, a’u cludo wedyn i ysbyty ger yr ysgol. Maen nhw ill dau mewn cyflwr sefydlog.

Yn ol yr heddlu, dyw hi ddim yn glir p’un ai ar dir yr ysgol y digwyddodd y saethu ai peidio.