Mae’r cerflun eiconig o Iesu Grist sy’n edrych i lawr dros ddinas Rio de Janeiro ym Mrasil, wedi cael ei ddifrodi yn ystod storm.

Mae awdurdodau yn y ddinas wedi cadarnhau fod bawd y cerflun wedi’i falu, a’u bod nhw’n amau mai mellten oedd yn gyfrifol am y difrod rywbryd nos Iau.

Fe gafodd bys canol y llaw dde ei ddifrodi gan storm y mis diwetha’ hefyd.

Mae’r cerflun, sy’n mesur 125 troedfedd o daldra, yn gael ei daro gan fellt yn lled aml. Fe gafodd ei adnewyddu yn 2010, pan wariwyd £2.4m ar drwsio rhannau o’r corff, yr wyneb a’r dwylo oedd wedi erydu.

Fe gafodd y cerflun ei godi yn 1931.