Mae swyddogion wedi gohirio’r chwarae ym Mhencampwriaeth Agored Awstralia am y tro, oherwydd y gwres llethol.

Mae’r tymheredd yn Melbourne, lle mae’r bencampwriaeth tenis yn cael ei chynnal, wedi bod dros 40C yn ystod y tri diwrnod diwethaf.

Dywedodd trefnwyr y bencampwriaeth y bydd y gemau yn Arena Rod Laver Arena ac Arena Hisense yn ail gychwyn o dan do.

Fe wnaeth chwaraewr tenis, swyddogion ac aelodau o’r gynulleidfa lewygu oherwydd y gwres ddoe.

Mae’r gwasanaethau brys wedi gwahardd unrhyw un rhag cynnau tan yn Victoria a de Awstralia wrth i ddiffoddwyr tan geisio rheoli tanau gwyllt yno. Mae nifer wedi cael eu cynghori i adael eu cartrefi.