Golwg360 sy’n cadw llygad ar holl glecs y ffenestr drosglwyddo ymysg clybiau Cymru a chwaraewyr Cymreig, ynghyd â newyddion am drosglwyddiadau sy’n cael eu cadarnhau.

Cadarnhad

Lee McArdle (Caernarfon i Gap Cei Connah)

Clecs

Dyw hi ddim yn debygol y bydd Caerdydd yn llwyddo i ddenu ail chwaraewr o Heerenveen y mis hwn, wedi i asiant yr ymosodwr Alfred Finnbogason ddweud nad yw’n credu y bydd yn mynd unrhyw le ym mis Ionawr (talksport)

Gall yr Albanwr ifanc Adam King serennu i Abertawe yn y dyfodol, yn ôl rheolwr ieuenctid yr Alban Ricky Sbragia, wrth i’r Elyrch barhau i drafod gyda Hearts am drosglwyddiad gwerth £200,000 (Edinburgh News)

Everton yw’r ffefrynau gyda’r bwcis bellach i gipio’r asgellwr Tom Ince o Blackpool am tua £4m, o flaen Caerdydd ac Abertawe (hereisthecity.com)

Fulham yw’r tîm cyntaf i symud am amddiffynwr ifanc Caerlŷr Liam Moore gyda chynnig o £2m, gydag Abertawe‘n un o nifer o glybiau sydd wedi dangos diddordeb (first4lcfc.com)

Mae gan Tony Pulis ddiddordeb mewn arwyddo Aron Gunnarsson o Gaerdydd, ac yn paratoi cynnig o £4m er mwyn ceisio denu capten Gwlad yr Ia i Crystal Palace (sportsdirectnews.com)

Mae Crystal Palace hefyd wedi gwneud cynnig o £1m am Mark Hudson, gyda’r amddiffynwr ddim ond wedi chwarae unwaith yn y gynghrair dros Gaerdydd y tymor hwn (Times)

Ac mewn hwb i Gaerdydd, sydd hefyd ar ei ôl, mae West Ham wedi gwrthod cynnig cyntaf Fulham am y chwaraewr canol cae Ravel Morrison (Metro)

Mae Caerdydd dal yn gobeithio arwyddo’r cefnwr chwith Fabio da Silva o Man United, gydag un o noddwyr ei glwb yn awgrymu’i fod ar y ffordd i Dde Cymru (Daily Mail)

Ac mae asiant Fabio a Rafael, ei efaill, wedi dweud ei bod hi’n “debygol iawn” y bydd y ddau yn gadael Man United – ond ddim nes diwedd y tymor (FourFourTwo)

Mae’r dyddiad ble y gall Abertawe fod wedi galw Ki Sung-Yeung yn ôl o fenthyg yn Sunderland bellach wedi pasio, er gwaethaf awgrymiadau i’r gwrthwyneb gan y cadeirydd Huw Jenkins (Sunderland Echo)

Ond mae Abertawe wedi bod yn gwylio ymosodwr Kidderminster Joe Lolley, ac yn ystyried ceisio cipio’i lofnod o flaen Huddersfield (Daily Mail)

Mae Ashley Barnes wedi annog Brighton i arwyddo’i ffrind da Joe Mason o Gaerdydd – i gymryd ei le ef yn y tîm (The Argus)

Mae Casnewydd yn ystyried arwyddo’r ymosodwr Aaron Amadi-Holloway a Jacob Cleaver, ar ôl rhoi gêm gyfeillgar i’r ddau yn erbyn ail dîm Cheltenham (South Wales Argus)

Y ffenestr hyd yn hyn

Ceri Morgan (Cambrian & Clydach i Gaerfyrddin)

Jay Colbeck (Wrecsam i Fangor) ar fenthyg

Jamie Tolley (dim clwb i Fae Colwyn)

Mats Moller Daehli (Molde i Gaerdydd) ffi heb ddatgelu

Kieron Freeman (Notts County i Derby) ar fenthyg

Daniel Collins (Marconi Stallions i Bala) am ddim

Rene Howe (dim clwb i Casnewydd)

Filip Kiss (Caerdydd i Ross County) ar fenthyg

Magnus Wolff Eikrem (Heerenveen i Gaerdydd) ffi heb ddatgelu

Elliot Hewitt (Ipswich i Gillingham) ar fenthyg

Alan Tate (Abertawe i Aberdeen) ar fenthyg

Rudy Gestede (Caerdydd i Blackburn) heb gyhoeddi ffi

Daniel Alfei (Abertawe i Portsmouth) ar fenthyg

Luke Holden (dim clwb i Gap Cei Connah)

Ryan Edwards (Gap Cei Connah i TNS)

Mark Smyth (Gap Cei Connah i Prestatyn)

Gary Roberts (dim clwb i Gap Cei Connah)

Sean Thornton (dim clwb i Bala)

Andy Jones (Y Drenewydd i Airbus)

Michael Burns (dim clwb i Gap Cei Connah)

Russell Courtney (Nantwich Town i Gap Cei Connah)

Gerwyn Jones (Caernarfon i Bangor)

Keyon Reffel (Afan Lido i Gaerfyrddin)

Carlos Roca (dim clwb i Rhyl)