Sgwar Wenceslas, Prâg
Parhau mae’r ymchwiliad i achos ffrwydrad marwol yn llysgenhadaeth Palesteina yn y Weriniaeth Czech ddydd Mercher.

Cafodd y llysgennad 56 oed, Jamal al-Jamal, ei ladd ar ôl i sêff ffrwydro yn y llysgenhadaeth yn y brifddinas, Prâg.

Bellach, mae heddlu’r wlad wedi darganfod 12 o arfau anghyfreithlon yn y llysgenhadaeth, ond nid oes unrhyw eglurhad pam eu bod yno.

Mae trigolion yr ardal o gwmpas y llysgenhadaeth wedi mynegi pryderon am ddiogelwch yn sgil y digwyddiad.