Y tonnau'n torri yn Aberystwyth ddydd Gwener (llun: James Vaughan)
Mae cyfuniad o wyntoedd cryf a thonnau uchel am wneud holl arfordir Cymru’n lle peryglus iawn heno ac yfory.

Gyda rhagor o wyntoedd cryf ar y ffordd, mae Cyfoeth Naturiol Cymru’n rhybuddio pobl i gadw draw o lannau’r môr.

Daw’r rhybudd ddiwrnod ar ôl i fyfyriwr orfod cael ei achub ar ôl iddo gael ei ysgubo allan i’r môr yn Aberystwyth ddoe.

Fe fydd gwyntoedd o’r de-orllewin yn cryfhau’n raddol heno a thros nos, ac erbyn bore yfory mae disgwyl gwyntoedd o 60 milltir yr awr ar hyd yr arfordir gorllewinol o Fae Abertawe yn y de i Fae Caernarfon yn y gogledd.

Mae hyn, ynghyd â’r llanw uchel fore yfory’n debyg o greu tonnau mawr iawn, a all achosi peryglon neilltuol mewn mannau lle mae morgloddiau wedi cael eu difrodi gan y stormydd diweddar.

Rhagor o lifogydd

Mae’r Swyddfa Dywydd hefyd wedi cyhoeddi rhybudd melyn o wyntoedd cryfion ar gyfer holl arfordir Cymru yfory. Maen nhw’n rhybuddio y bydd y tonnau’n fwy na’r hyn sy’n arferol ar gyfer gwyntoedd o 60 i 70 milltir yr awr.

Yn ogystal, mae rhybudd melyn o law  trwm wedi’i gyhoeddi ar gyfer holl siroedd y de-ddwyrain o Sir Fynwy i Abertawe heno.

Mae disgwyl tua 10-15mm o law drwy’r siroedd hyn, gyda mwy na 30mm yn bosibl ar diroedd uwch.

Er y dylai sychu erbyn y bore, mae’r tywydd gwlyb diweddar yn golygu y bydd unrhyw law ychwanegol yn arwain at beryglon o ragor o lifogydd.