Rali yng Nghatalwnia yn galw am annibyniaeth
Mae Llywodraeth Sbaen wedi dweud y bydd yn rhwystro unrhyw ymgais gan lywodraeth ranbarthol Catalwnia i gynnal refferendwm am annibyniaeth.
Dywedodd llywydd Llywodraeth ranbarthol Catalwnia Artur Mas ei fod yn awyddus i gynnal refferendwm ar 9 Tachwedd, 2014.
Ond wrth ymateb i gyhoeddiad Artus Mas, dywedodd gweinidog cyfiawnder Sbaen Alberto Ruiz-Gallardon wrth newyddiadurwyr a byddai’r bleidlais yn anghyfreithlon ac na fyddai’n cael ei chynnal.
O dan gyfansoddiad Sbaen dim ond y Llywodraeth yn Madrid sydd a’r hawl i alw am refferendwm ac mae’r Prif Weinidog Mariano Rajoy wedi gwrthod cais diweddar gan Artur Mas i gynnal un.
Mae’r Undeb Ewropeaidd a Nato wedi rhybuddio y bydd Catalwnia, sydd â phoblogaeth o 7.5 miliwn, yn cael eu heithrio os daw’n annibynnol.
Mae’r cynlluniau i gynnal refferendwm wedi cael cefnogaeth dros filiwn o bobl yng Nghatalwnia.