Nelson Mandela
Fe fydd y Prif Weinidog David Cameron yn teithio i Johannesburg yn ddiweddarach heddiw ar gyfer cyfres o ddigwyddiadau i gofio Nelson Mandela.

Mae disgwyl i arweinwyr byd gan gynnwys Barack Obama a Francois Hollande deithio yno i roi teyrnged i gyn Arlywydd De Affrica fu farw wythnos diwethaf.

Fe fydd ei angladd yn cael ei gynnal ddydd Sul ond cyn hynny fe fydd degau o filoedd o bobl yn dod at ei gilydd mewn stadiwm yn Soweto ar gyfer gwasanaeth coffa yfory.

Cyn i David Cameron deithio i Dde Affrica bydd sesiwn gwestiynau arferol y Senedd yn cael ei ganslo er mwyn rhoi cyfle i’r Prif Weinidog ac arweinwyr y pleidiau eraill  roi teyrnged i Mandela.

Y Tywysog Siarl fydd yn cynrychioli’r Frenhines yn ei angladd ddydd Sul, meddai Palas Buckingham.