Mae rhai cleifion yn gorfod aros am oriau mewn ambiwlansys tu allan i ysbytai am fod yr unedau brys yn rhy brysur, yn ôl ymchwil gan y BBC.

Mewn un achos bu’n rhaid i glaf yng Nghymru aros mwy na chwe awr cyn cael mynediad tra bod claf yn Lloegr wedi aros mwy na 5 awr.

Mae arweiniad gan y GIG yn argymell na ddylai cleifion orfod aros mewn ambiwlansys am fwy na 15 munud.

Nid yw parafeddygon yn cael trosglwyddo cleifion i ofal yr ysbytai nes bod staff yno yn gallu gofalu amdanyn nhw.

Cafodd y ffigurau eu rhyddau yn dilyn cais Rhyddid Gwybodaeth gan y BBC yn gofyn i wasanaethau ambiwlansys y DU am eu hamseroedd aros hiraf yn y 12 wythnos rhwng mis Awst a mis Hydref.

Yng Nghymru oedd yr amser aros hiraf – sef chwe awr a 22 munud. Yn wythnosol yn ystod y cyfnod yma, yr amser aros hiraf  ar gyfartaledd oedd mwy na 3 awr.

Yn nwyrain Lloegr bu  claf yn aros 5 awr a 51 munud.

Yr Alban oedd â’r record orau, gyda’r amser hiraf o fwy na dwy awr ym mhob wythnos unigol.

Roedd Gogledd Iwerddon ac Ynys Wyth wedi methu darparu data.

Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud mai “eithriadau” yw achosion fel hyn.

Ond mae llefarydd iechyd y Ceidwadwyr yng Nghymru Darren Millar wedi dweud na ddylai unrhyw un orfod aros mor hir mewn ambiwlans ac mae’n galw ar Lywodraeth Cymru i fynd i’r afael a’r sefyllfa.

Dywedodd Dr Clifford Mann, llywydd y Coleg meddygaeth Frys wrth y BBC bod y ffigurau yn “frawychus” ac nad oedden nhw’n cynnwys y cyfnodau prysuraf dros gyfnod y gaeaf, “felly mae’n annhebyg y bydd y ffigurau yma’n gwella ac mae hynny’n destun pryder.”