Storfa fwyd yn Malawi (llun Oxfam)
Mae’r 159 o wledydd sy’n aelodau o’r Sefydliad Masnach Byd-eang wedi taro ar y cytndeb byd-eang cyntaf erioed i hybu masnach.

Fe fydd y cytundeb yn ei gwneud hi’n haws i wledydd tlawd werthu eu nwyddau a gallai ychwanegu hyd at £617bn i economi’r byd yn ôl arbennigwyr.

Roedd Cyfarwyddwr Cyffredinol y Sefydliad, Roberto Azevado yn wylo wrth i’r pedwr niwrnod o drafododaethau ar Ynys Bali yn Indonesia ddirwyn i ben.

“Rydym wedi rhoi’r byd yn ôl yn y Sefydliad Masnach Byd-eang”, meddai “a hynny am y tro cyntaf erioed.”

Fe fu bron i’r cyfan ddod i ben ar yr unfed awr ar ddeg pan wnaeth Ciwba wrthwynebu dileu cyfeiriad at embargo masnach yr UDA ar yr ynys.

Mae’r embargo yn bodoli ers degawdau ac mae Ciwba eisiau i’r UDA gael gwared ohono.

Roedd India hefyd wedi gwrthwynebu ymdrechion i godi’r cymorthdaliadau ar rawn sy’n help i sicrhau bod y tlawd yn cael digon i’w fwyta.

Beirniadaeth

Mae rhai yn pryderu y bydd y rheolau newydd yn atal gwledydd rhag blaenoriaethau a gweithredu ar faterion fel gwarchod yr amgylchedd, hawliau’r gweithwyr a dioglewch bwyd.

Mae nhw hefyd yn pryderu y bydd gostyngiad sydyn yn y tollau mewnforio yn arwain at chwalu rhai didwydiannau gan achosi diweithdra mewn gwledydd cyfoethog a thlawd fel ei gilydd.

Cafod y Sefydliad Masnach Byd-eang ei sefydlu yn Ionawr 1995 er mwyn hybu trafodaethau ar faterion masnachol a phenderfynu ar anghytuno rhwng y gwledydd sy’n aelodau o’r Sefydliad.