Enda Kenny
Mae Sinn Fein wedi addo rhoi amser caled i’r Blaid Lafur os ydyn nhw’n clymbleidio â Fine Gael a ffurfio llywodraeth newydd Gweriniaeth Iwerddon.
Dywedodd Aengus O’Snodaigh o’r blaid nad oedd yn gweld sut allai’r ddwy blaid gydweithio gyda’i gilydd.
“Mae’r Blaid Lafur yn hoff o awgrymu eu bod nhw’n gyfeillion i’r dosbarth gweithiol,” meddai.
“Os ydyn nhw’n neidio i mewn i’r gwely gyda Fine Gael fe fydd yn gyfuniad rhyfedd iawn, iawn ac fe gawn ni weld sut bolisïau fyddan nhw’n eu cyflwyno.
“Fe fyddwn ni yn rhoi amser caled iddyn nhw yn y Dail ar bob un o’r polisïau rheini.”
Mae’n debyg fod y darpar Brif Weinidog, Enda Kenny, o Fine Gael, eisoes wedi cysylltu â’r blaid Lafur â’r nod o ddechrau trafodaethau.
Enillodd Fine Gael 70 o seddi yn y Dail yn yr etholiad ddydd Gwener, tra bod y Blaid Lafur wedi cipio 36.
Mae’r ddwy ochor wedi dweud eu bod nhw dan bwysau o Ewrop i ddod i gytundeb erbyn diwedd yr wythnos.
Collodd plaid y llywodraeth flaenorol, Finna Fail, 59 o’u seddi gan orffen ar 18 yn unig.
“Roedd galwad ffôn rhwng Enda Kenny a Eamon Gilmore ond does dim trafodaethau wedi dechrau eto,” meddai llefarydd ar ran Fine Gael.
‘Dim clymblaid’
Dywedodd Mary Lou McDonald, is lywydd Sinn Fein, na fydden nhw’n ystyried cysylltu â Fine Gael er mwyn ffurfio eu clymblaid eu hunain.
“Mae gennym ni fandad i fod yn wrthblaid i’r llywodraeth, pwy bynnag sydd ynddo. Maen nhw eisiau sicrhau mai’r bobol dlotaf sy’n talu am yr argyfwng economaidd,” meddai.
“Allen ni ddim cwtsio lan gyda Fine Gael a gwneud rhyw fath o gytundeb.”
Mae disgwyl i lywydd y blaid, Gerry Adams, enillodd sedd yn Swydd Louth, arwain y blaid yn y Dail.