Cyngor Sir Caerfyrddin
Mae teuluoedd deg o blant bach yn protestio am nad ydyn nhw’n gallu cael lle mewn ysgol gynradd Gymraeg, er gwaetha’ rhoi rhybudd dair blynedd yn ôl.
Maen nhw’n cyhuddo Cyngor Sir Gaerfyrddin o wahaniaethu yn erbyn plant sydd eisiau addysg Gymraeg ac, yn y pen draw, maen nhw’n dweud y byddan nhw’n ystyried cymryd camau cyfreithiol.
Yn ôl un o arweinwyr yr ymgyrch, mae’n gywilydd, ddeuddeng mlynedd ers sefydlu’r Cynulliad, nad oes hawl i gael addysg Gymraeg i unrhyw blant sy’n dymuno hynny.
Mae’r Aelod Seneddol a’r Aelod Cynulliad lleol yn cefnogi ymgyrch y rhieni sy’n ceisio cael lle i’w plant yn Ysgol Gymraeg Rhydaman.
Fe fydd yr AS Jonathan Edwards yn cwrdd â phrifathro’r ysgol cyn mynd at y Cyngor Sir ac fe fydd yr AC Rhodri Glyn Thomas yn cyfarfod â chynrychiolwyr Adran Addysg y cyngor.
‘Dim lle’ – y rhieni
Er bod y Cyngor Sir yn dweud nad yw llefydd mewn ysgolion wedi cael eu pennu eto, mae’r rhieni’n dweud eu bod wedi cael gwybod yn answyddogol na fydd lle i’w plant nhw yn yr ysgol.
Dydyn nhw ddim yn fodlon ar gynnig o le mewn ysgol lle mae ffrwd Gymraeg – yn ôl un o’u harweinwyr, Arwyn Thomas, does dim sicrwydd y bydd pob pwnc yno ar gael trwy gyfrwng yr iaith ac fe fydd awyrgylch ysgol ddwy ffrwd yn wahanol.
Mae ganddo ef ddwy efail sy’n gobeithio cael lle yn yr ysgol ac mae naw teulu arall yn yr un cwch.
“Mae’r ysgol yn llawn,” meddai Arwyn Thomas. “Mae wedi bod yn llawn ers dwy neu dair blynedd ond dyw’r Cyngor Sir ddim wedi cynllunio o gwbl ar gyfer addysg Gymraeg. Does dim blaenoriaethu, dim cynllunio.
“Roedd saith teulu wedi cael eu gwrthod y llynedd hefyd. Mae’n gywilyddus bod hyn yn dal i ddigwydd 12 mlynedd ers sefydlu’r Cynulliad. R’yn ni wedi rhoi gwybod ers 2008 ein bod eisiau i’n plant fynd i’r ysgol Gymraeg.”
‘Dim penderfyniad’ – Cyngor Sir Gâr
Mewn datganiad, roedd y Cyngor Sir yn dadlau ei bod yn rhy gynnar i wybod pa blant sy’n mynd i ba ysgol ond, pe na bai lle, fe fyddai’r plant yn cael cynnig lle mewn ffrwd Gymraeg lle mae’r disgwyliadau’n debyg i ysgol Gymraeg benodol.
Mae’r rhieni wedi awgrymu bod modd defnyddio llefydd gwag mewn ysgol arall gyfagos i gynnig dosbarthiadau ychwanegol i’r Ysgol Gymraeg – yn ôl y Cyngor Sir, fe fydden nhw’n disgwyl i ysgolion gydweithio os oes prinder lle mewn un a llefydd gwag mewn un arall.
Ond mae’r rhieni’n mynd ymhellach na beirniadu’r Cyngor am eu hachos personol nhw. Yn ôl Arwyn Thomas, mae’r helynt yn nodweddiadol o’r ffordd y mae’r Cyngor Sir yn trin addysg Gymraeg.
Maen nhw’n dadlau y byddai eu plant yn gallu cael addysg Gymraeg yn ddidrafferth ychydig filltiroedd i ffwrdd yng Nghwm Tawe neu sir Castell Nedd Port Talbot.
Maen nhw hefyd yn dweud bod cynghorau eraill – fel Caerdydd a Rhondda Cynon Taf – yn cynllunio ar gyfer addysg Gymraeg.
Gwleidyddion yn cefnogi
“Rwy’n rhannu’r rhwystredigaethau sydd gan rieni’r disgyblion sy’n dymuno addysg gyflawn Gymraeg ac yn mawr obeithio y gallwn weithio ar y cyd i ddatrys y sefyllfa.” – Jonathan Edwards, Aelod Seneddol Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr.
“Mae’n bwysig fod plant sy’n dymuno cael addysg gyflawn drwy gyfrwng y Gymraeg yn cael y cyfle i fynychu’r ysgol.” Rhodri Glyn Thomas, Aelod Cynulliad Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr.