Mae pobol yn Trinidad yn galw am fwy o fesurau i ddiogelau plant, wedi i gorff geneth 6 oed gael ei ganfod mewn bag plastig.

Mae’r heddlu’n dweud i Keyana Cunberbatch gael ei churo a’i threisio cyn cael ei lladd.

Mae ymgyrchwyr yn galw ar i wleidyddion a’r rheiny sy’n gyfrifol am basio deddfau yn Trinidad i greu cofrestr genedlaethol o blant, a chosbi pobol sy’n methu a riportio troseddau yn erbyn plant.

Mae’r heddlu wedi arestio dyn sy’n perthyn i Keyana – y dyn oedd i fod i ofalu amdani ar ol yr ysgol tra’r oedd ei mam hi’n gweithio. Does neb eto wedi cael ei gyhuddo.

Mam y ferch fach ddaeth o hyd i’w chorff mewn bag plastig, ychydig ddyddiau wedi iddi fynd ar goll.