Esgob Pat Storey
Mae’r wraig gynta’ i ddod yn esgob yng ngwledydd Prydain ac Iwerddon, wedi cael ei hordeinio gan Eglwys Loegr heddiw.

Roedd y Parchedig Pat Storey, 53, yn rheithor yn ninas Derry, cyn iddi gael ei dewis gan yr Eglwys yn Iwerddon fel esgob newydd Meath a Kildare.

Fe gafodd y fam i ddau o blant ei hordeinio yn Eglwys Gadeiriol Crist yn Nulyn, a’r gwasanaeth dan law Archesgob y ddinas, Y Gwir Barchedicaf Ddr Michael Jackson.

Mae’r Esgob Storey yn briod gyda’r Parchedig Earl Storey – a ddarllenodd ddarn o’r Ysgrythur yn y gwasanaeth heddiw – ac mae ganddyn nhw ddau o blant sydd bellach yn oedolion 22 a 25 oed.

Fe dyfodd Esgob Storey i fyny yn ninas Belffast cyn mynd i Goleg y Drindod Dulyn i astudio Ffrangeg a Saesneg, ac wedyn penderfynu ymuno gyda’r eglwys.