Fe fyddai’r Deyrnas Unedig yn talu “pris aruthrol o uchel” pe bai’n penderfynu gadael yr Undeb Ewropeaidd, yn ôl cyn Brif Weinidog Ceidwadol.

Fe fyddai pleidlais i adael mewn refferendwm yn costio biliynau o bunnau ac yn ynysu Prydain yn y maes rhyngwladol, meddai Syr John Major.

Mewn araith yn Llundain, dywedodd: “byddai’r penderfyniad i adael yn ofnadwy” ac mae wedi rhybuddio’r Prif Weinidog presennol, David Cameron, i fod yn “realistig” wrth sôn am aildrafod amodau aelodaeth gwledydd Prydain.

‘Realistig’

“Allwn ni ddim gofyn am yr amhosib” meddai John Major.  “Byddai’n rhaid i David Cameron drafod mewn ffordd graff iawn wrth ail drafod aelodaeth Prydain yn yr Undeb Ewropeaidd.”

Ond roedd ei brif rybudd ynglŷn â gadael yr Undeb yn llwyr – er bod nifer o Geidwadwyr yn galw am hynny.

“Wrth gwrs, mi fydden ni’n goroesi, ond byddai pris aruthrol o uchel i’w dalu wrth ystyried yr economi a  swyddi”.

“Byddai Prydain yn symud ymhellach i ffwrdd o’n partneriaid masnach agosaf a mwyaf, mewn amser lle maen nhw’n ceisio dod yn agosach at ei gilydd.”

Ychwanegodd y byddai’r Deyrnas Unedig yn dal i orfod gweithredu o dan reolau’r Undeb Ewropeaidd, ond na fyddai ganddi lais i atal cyfreithiau niweidiol.