Eglwys gadeiriol Christchurch (mathinbgn-CCA-2.0)
Mewn cyfarfodydd gweddi y tu allan i eglwysi a gafodd eu difrodi yn y daeargryn yr wythnos ddiwethaf, mae trigolion Seland Newydd wedi bod yn cofio dioddefwyr un o’r trychinebau gwaethaf yn hanes y wlad.

Wrth i nifer y marwolaethau godi i 147, parhau mae’r chwilio am bobl sy’n dal ar goll ar ôl y daeargryn yn ninas Christchurch ddydd Mawrth.

“Wrth i’n dinasyddion fynd i’r eglwys y Sul yma fel fydd miliynau ledled y byd yn ymuno â nhw mewn gweddi, meddai Bob Parker, maer Christchurch.

Mae eglwysi’r ddinas, gan gynnwys yr eglwys gadeiriol, ymysg yr adeiladau a gafodd eu taro waethaf.

Eto i gyd, llwyddodd y plwyfolion i gynnal gwasanaeth wrth osod rhesi o gadeiriau ar lawntiau y tu allan i amryw o eglwysi.

Fe gynhaliwyd seremoni draddodiadol hefyd gan aelodau o gymuned frodorol Maori Seland Newydd y tu allan i’r eglwys gadeiriol i fendithio ysbrydion y meirw y credir eu bod wedi cael eu claddu o dan y rwbel yno.

Mae pedwar diwrnod wedi mynd heibio bellach ers cael hyd i rywun byw wedi’r daeargryn, ac mae achubwyr yn cydnabod bod angen gwyrth i gael hyd i ragor o oroeswyr.

Fodd bynnag, mae tîm rhyngwladol o dros 600 o achubwyr yn dal wrthi’n chwilio trwy adfeilion adeiladau yn y ddinas.

Y gred yw fod tua 50 o bobl yn dal ar goll.