Mae dyn wedi saethu aelod o staff papur newydd cyn ffoi o’r adeilad ym Mharis.

Mae’r dyn 27 oed gafodd ei saethu yn gweithio fel cynorthwyydd ffotograffydd i bapur Liberation ym mhrifddinas Ffrainc.

Mae mewn cyflwr difrifol yn yr ysbyty.

Mae’r heddlu yn cymharu tystiolaeth fideo o’r digwyddiad gyda digwyddiad tebyg ddydd Gwener pan wnaeth dyn gyda dryll bygwth newyddiadurwyr teledu yn eu swyddfa cyn ffoi.

Yn dilyn y digwyddiad heddiw clywyd saethu ger banc yng ngorllewin y ddinas cyn i ddyn gael ei ddal yn wystl am gyfnod gan ddyn arfog.

Dywedodd yr heddlu nad ydyn nhw’n gwybod os oedd ‘na gysylltiad rhwng y tri digwyddiad.

Mae plismyn wedi eu hanfon i bob un o brif sefydliadau’r cyfryngau ym Mharis.