Y Boeing 747 wedi'r ddamwain
Mae enw’r Prydeiniwr fu farw mewn damwain awyren yn Rwsia neithiwr wedi cael ei gyhoeddi.

Roedd Donna Bull ymhlith 50 o bobl fu farw ar ôl i’r awyren Boeing 747 fynd ar dan wrth geisio glanio ym maes awyr Kazan yn Tatarstan tua 7.20yh neithiwr.

Roedd Donna Bull yn “aelod o staff poblogaidd ac uchel ei pharch” yng Ngholeg Bellerbys yng Nghaergrawnt.

Bu farw un o’i chydweithwyr ym Moscow, Yana Baranova, yn y ddamwain hefyd. Roedd y ddwy wedi teithio i Kazan ar gyfer taith farchnata.

Ni fydd unrhyw ddosbarthiadau yn cael eu cynnal yn y coleg  heddiw ond bydd yn agor er mwyn i staff a myfyrwyr “ddod at ei gilydd i alaru”.

Mae timau arbenigol yn ceisio darganfod beth achosodd y ddamwain.