Lee Rigby (Llun y Weinyddiaeth Amddiffyn)
Fe fydd y ddau ddyn sydd wedi eu cyhuddo o lofruddio’r milwr Lee Rigby yn mynd gerbron llys heddiw.
Mae Michael Adebolajo, 28, a Michael Adebowale, 22, wedi eu cyhuddo o lofruddio’r milwr wrth iddo gerdded yn ôl i farics Woolwich yn ne ddwyrain Llundain ar 22 Mai eleni.
Maen nhw hefyd wedi eu cyhuddo o geisio llofruddio plismon yr un diwrnod a chynllwynio i lofruddio plismon ddiwrnod cyn y digwyddiad.
Fe fydd yr achos yn yr Old Bailey.