Prototeip y Boeing 737 (Boeing Dreamscape CCA 2.0)
Roedd dyn o wledydd Prydain ymhlith y 50 o bobol a fu farw mewn damwain awyren yn Rwsia, yn ôl y Swyddfa Dramor.

Yn ôl adroddiadau roedd y Boeing 737 yn ceisio glanio ym maes awyr Kazan yn Tatarstan pan aeth ar dân ar ol taro’r ddaear tua 7.20 neithiwr.

Dywed y Swyddfa Dramor eu bod yn cadw mewn cysylltiad â’r awdurdodau lleol ac yn rhoi cymorth trwy eu conswl i’r rhai sydd wedi eu heffeithio.