Mark Bridger y tu allan i'r llys (Llun: PA)
Mae cwmniau meddalwedd Google a Microsoft wedi cytuno i gyflwyno mesurau er mwyn rhwystro pobol rhag chwilio am ddelweddau anweddus o blant ar y We.

Fe fydd meddalwedd arbennig yn cael ei gyflwyno er mwyn atal 100,000 o dermau sy’n cael eu defnyddio i chwilio am gynnwys anghyfreithlon, meddai prif weithredwr Google, Eric Schmidt.

Bydd 13,000 o dermau eraill sy’n gysylltiedig â cham-drin plant yn rhywiol yn arwain at ddangos rhybuddion gan Google ac elusennau yn ymddangos ar y sgrin i hysbysu defnyddwyr y gallai’r cynnwys fod yn anghyfreithlon.

‘Datblygiad sylweddol’

Mae’r Prif Weinidog David Cameron wedi croesawu’r penderfyniad gan ddweud ei fod yn “ddatblygiad sylweddol”.

Fe fydd y cyfyngiadau yn cael eu lansio yn y Deyrnas Unedig yn gyntaf cyn cael eu lledu i wledydd eraill lle mae Saesneg yn cael ei defnyddio, a 158 o ieithoedd eraill o fewn y chwe mis nesaf.

Mae’r ddau gwmni wedi ildio i bwysau ar ôl mynnu na allen nhw gyflwyno mesurau o’r fath ac na ddylen nhw. Roedd yna alwadau ar y cwmnïau i weithredu yn dilyn achosion Mark Bridger a Stuart Hazel yn gynharach eleni.

Roedd Bridger, a lofruddiodd y ferch 5 oed April Jones o Fachynlleth, a Hazel, a lofruddiodd Tia Sharp, 12, wedi bod yn chwilio am ddelweddau anweddus o blant cyn iddyn nhw ladd.