Mae’r awyren gyntaf yn cario nwyddau brys o Brydain i bobol y Philippines wedi cyrraedd y wlad, yn ôl Llywodraeth Prydain.

Roedd y Boeing 777 a oedd yn cario 8,836 o becynnau lloches o storfeydd Prydain yn Dubai ac fe laniodd yn ninas Cebu yn y Philippines.

Mae cynfasau plastig, rhaff a blancedi yn y pecynnau a fyddai’n rhoi lloches i deulu o bump wedi i’r Philippines weld y teiffŵn gwaethaf yn hanes y wlad.

Y disgwyl yw y bydd 1,000 o dunelli o nwyddau yn cyrraedd o’r Iwerddon yn ddiweddarach heddiw.

Y meirw

Erbyn hyn, mae’n ymddangos mai tua 1,800 o bobol sydd wedi marw er bod son am golli 10,000 wedi ei amcangyfrif i ddechrau. Dywedwyd fod y ffigwr gwreiddiol wedi ei amcangyfrif gan blismyn a oedd mewn sioc ar ôl gweld y difrod.