Mae ymgyrchwyr wedi disgrifio datganiad y Prif Weinidog am y Gynhadledd Fawr ddoe fel un ‘chwerthinllyd’ sy’n awgrymu nad yw’r Llywodraeth yn cymryd argyfwng yr iaith o ddifrif.
Yn y Senedd ddoe, cyhoeddodd y Prif Weinidog ddatganiad am y camau nesaf ynglŷn yr Iaith Gymraeg yn ei “Gynhadledd Fawr”, a oedd yn cynnwys:
– Sicrhau bod Llywodraeth Cymru yn gosod enghraifft bositif drwy weithredu Cynllun Gwelliant Mewnol i sicrhau bod y Gymraeg yn cael ei hystyried ar draws portffolio pob Gweinidog, a’i gwneud yn haws i asesu ein gwariant ar y Gymraeg
– Cefnogi’r awdurdodau lleol i asesu effaith y datblygiadau ar yr iaith drwy baratoi canllaw i gefnogi TAN 20
– Cynhyrchu pecyn i gyflogwyr a chyflogeion dros y misoedd nesaf i wella ymwybyddiaeth o’r Gymraeg a’r defnydd ohoni yn y gweithle.
– Datblygu ap a gwefan i dynnu sylw pobl at ddigwyddiadau a gwasanaethau sy’n defnyddio’r Gymraeg yn eu hardal, y byddai modd eu datblygu a’u ehangu gyda’r posibilrwydd o greu rhwydwaith o siaradwyr Cymraeg a allai fentora dysgwyr.
– Datblygu ymgyrch 5 y dydd i annog pobl i ddefnyddio eu Cymraeg yn amlach, gan greu arferion newydd a magu hyder.
Cwtogi
Fe gyhoeddodd Llywodraeth Cymru yn y gyllideb ddrafft y bydd arian tuag at ‘yr iaith Gymraeg’ yn cael ei gwtogi o dros £1.5 miliwn dros y ddwy flynedd nesaf – toriad o 9.6% mewn termau real.
Yn ôl Plaid Cymru mae ymateb Carwyn Jones wedi bod yn annigonol.
Meddai eu llefarydd ar yr iaith Gymraeg Simon Thomas: “Mae Plaid Cymru wedi dweud ers cynnal Y Gynhadledd Fawr fod angen i’r digwyddiad polisi arwain ar weithredu mawr, ac yn anffodus dydyw hyn heb ddigwydd.
“Yn hytrach, rydym yn gweld toriadau o £1.5 milliwn dros dwy flynedd gan y Llywodraeth i gyllideb yr iaith Gymraeg ac mae Comisiynydd y Gymraeg yn parhau i ofyn cwestiynnau am y TAN 20 newydd. Mae’n amlwg fod llawer o gwestiynnau sydd heb eu ateb.
“Nod Plaid Cymru yw bod pob plentyn yn derbyn addysg trwy gyfrwng y Gymraeg yn ystod y Cyfnod Sylfaen, ac rydym felly yn siomedig fod cyn lleied o ddarpariaeth neu weithredu ar raglen addysg gynnar a pholisi Dechrau’n Deg.
“Mae’r Llywodraeth yn barod wedi cyfaddef ei fod yn anhebygol o weld 25% o blant saith oed yn cael eu haddysgu drwy gyfrwng y Gymraeg erbyn 2015. Mae’n siomedig fod y Llywodraeth wedi rhoi’r gorau i’r uchelgais hwn trwy’r ymateb annigonol hwn heddiw.”
Chwerthinllyd
Dywedodd Robin Farrar, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg: “Mae datganiad y Prif Weinidog yn chwerthinllyd. Mae bron i flwyddyn ers cyhoeddi canlyniadau’r Cyfrifiad bellach, a dydy’r Llywodraeth heb ymateb i’r argyfwng mewn unrhyw ffordd ystyrlon.
“Mae amser yn brin, rydyn ni’n colli 3,000 o siaradwyr y flwyddyn, ond mae gynnon ni Lywodraeth sy’n gwneud dim byd, ac sy’n anwybyddu ei hymgynghoriadau ei hun.”
Mae’r Gymdeithas wedi rhoi tan Chwefror 1af i’r Prif Weinidog ddatgan ei fwriad i weithredu mewn chwe maes polisi, a fyddai’n dangos ymateb digonol i ganlyniadau’r Cyfrifiad ym marn y mudiad.
Bydd y grŵp pwyso yn cynnal rali yn Aberystwyth ar Ragfyr y 14eg, blwyddyn ers cyhoeddi canlyniadau’r Cyfrifiad.