Mae heddlu yn Ne Affrica wedi cadarnhau fod dau o bobol wedi’u lladd, a thri arall wedi’u hanafu, wedi ffrwydriad mewn canolfan siopa yn Johannesburg.

Mae llefarydd ar ran Heddlu Ekurhuleni Police wedi cadarnhau mai siop Moneypoint yn Eastgate Mall oedd targed yr ymosodiad.

Does neb eto wedi hawlio cyfrifoldeb, na neb wedi cynnig rheswm tros adael bom.