Mae protestwyr ym Mwlgaria wedi ceisio amgylchynu senedd y wlad, gan wrthdaro â’r heddlu.
Ceisiodd cannoedd o wrthdystwyr greu cadwyn ddynol o gwmpas y senedd yn ninas Sofia, gan alw ar lywodraeth asgell chwith y wlad i ymddiswyddo.
Bu’n rhaid i’r heddlu arestio nifer o’r protestwyr cyn creu ‘coridor’ o blismyn er mwyn galluogi’r gwleidyddion i adael y senedd.
Cafodd y brotest ei threfnu gan fyfyrwyr sydd wedi meddiannu prifysgolion y wlad ers nifer o wythnosau.
Maen nhw’n honni fod gan arweinwyr y llywodraeth gysylltiadau llygredig ag arweinwyr busnes y wlad.