Mae safle hen ladd-dŷ ym Môn ar werth am £1.5m.

Fe gaeodd safle Welsh Country Foods ym mhentre’ Gaerwen ym mis Ebrill eleni, pan gollodd 325 o bobol eu swyddi.

Ond er bod cwmni 2 Sisters Food Group wedi prynu’r safle wedyn, maen nhw bellach wedi penderfynu nad ydyn nhw am ei gadw.

Yn ôl yr hysbyseb, mae’r “safle 29 acer yn lladd-dŷ cig coch gweithredol, gyda lle i gadw 7,000 o anifeiliaid”.