Calendr Castell Aberteifi yn cael ei lawnsio yn Ffair Aberteifi
Mae Calendr cyntaf Castell Aberteifi sydd â delweddau syfrdanol o’r Castell newydd ei gyhoeddi.
Y ffotograffydd, Louise Noakes, sydd wedi tynnu’r 12 delwedd ar gyfer y calendr. Ar hyn o bryd, mae’r castell wrthi’n cael ei adfer ar hyn o bryd er mwyn dod yn gartre’ i arddangosfa barhaol ar hanes yr Eisteddfod.
Mae’r calendr hefyd yn cynnwys nodiadau ar yr holl ddyddiadau sy’n arbennig yn hanes y castell – yn cynnwys yr Eisteddfod gyntaf erioed a gynhaliwyd dan nawdd yr Arglwydd Rhys ar Ddydd Nadolig, 1176.