Model o orsaf niwcliar yn Iran
Er bod angen cytundeb rhyngwladol ar raglen niwcliar Iran, ni fydd ei llywodraeth byth yn ildio’i hawl i gynhyrchu ynni niwcliar yn ôl Arlywydd y wlad.

Wrth annerch senedd Iran dywedodd:

“Ni fyddwn byth yn ildio wrth negydu ynglyn â hawliau niwcliar oddi mewn i fframwaith ryngwladol ar ein tir ein hunain, gan gynnwys trin uraniwm ,” meddai.

Mae gwledydd y gorllewin yn pryderu bod Iran yn bwriadu defnyddio ei rhaglen niwcliar er mwyn creu arfau ond mae Iran yn gwadu hyn ac mae cynrychiolwyr yr holl wledydd wedi bod yn trafod y sefyllfa yn Geneva.

“Adeiladol”

Daeth y trafodaethau i ben heb unrhyw gytundeb ond gyda’r holl aelodau yn dweud eu bod wedi bod yn adeiladol.

Fe fydd y trafodaethau yn ail gychwyn yr wythnos nesaf.

Fe wnaeth yr Arlywydd Hassan Rouhani ei sylwadau wrth i rai yn Iran fynegi pryder bod y wlad yn mynd i ildio llawer o hawliau dan bwysau oddi wrth rhai o wledydd mwyaf grymus y byd.

Dywedodd Gweinidog Tramor Iran Mohammad Javad Zarif ar Facebook bod “problemau yn parhau” ond disgrifiodd y trafodaethau fel rhai “difrifol ond parchus.”