Bydd miloedd o bobl yn gorymdeithio ac yn mynychu gwasanaethau ym mhob cwr o Gymru heddiw i goffau y rhai sydd wedi cael eu lladd mewn brwydrau a rhyfeloedd.
Bydd y Prif Weinidog Carwyn Jones ymhlith yr rhai fydd yn y gwasanaeth yng Nghaerdydd ger y Gofgolofn Genedlaethol yng ngerddi Alexandra ym Mharc Cathays.
Draw yn Llundain bydd cynrychiolwyr o “Fyddin Gyfrinachol” o gyfnod yr ail ryfel byd yn gorymdeithio heibio’r Senotaff a hynny am y tro cyntaf.
Cafodd uned y Coleshill Auxilliaries ei sefydlu gan Winston Churchill er mwyn parhau i ymladd ac achosi hafoc petae’r Almaenwyr yn llwyddo i lanio yng Ngwledydd Prydain.
Roedd Dillwyn Thomas, 88 oed o Benybont ar Ogwr yn un o’r rhai gafodd gais i ddod yn rhan o’r uned newydd a bydd ymhlith y miloedd fydd yn gorymdeithio yn Llundain y bore yma.