Difrod wedi'r storm (llun PA)
Mae’r teiff
ŵn anferth darodd Ynysoedd y Philippines dydd Gwener wedi lladd o gwmpas 10,000 o bobl mewn un ddinas yn unig yn ôl llywodraethwr yr ardal.

Yn ôl Dominic Petilla, llywodraethwr talaith Leyte, cafodd y miloedd eu lladd yn ninas Tacloban wrth i wyntoedd tu hwnt o ffyrnig ddymchwel adeiladau ac achosi tonnau enfawr hyd at 20 troedfedd o uchder wnaeth wedyn sgubo dros y dalaith ac ynysoedd eraill yn yr ardal.

Mae ynys Samar yn union gyferbyn â Tacloban ac mae swyddfa trychineb yr ardal wedi cadarnhau bod 300 o bobl yn nhref Basey wedi marw a 2,000 ar goll.

Roedd golygfeydd dychrynllyd yn Tacloban ar ôl i’r storm fynd heibio. Roedd nifer o gyrff yn hongian o ganghennau coed ac ar y strydoedd.

Gwelodd Mila Ward lawer o gyrff wrth iddi deithio i faes awyr Tacloban i ddisgwyl am awyren i fynd â hi adref i Awstralia.

“Fe welson ni ymhell dros gant o gyrff ar hyn y strydoedd” meddai.

“ Roeddyn nhw wedi eu gorchuddio efo unrhyw beth – tarpolin, cardfwrdd, deunydd toi – unrhyw beth.”

Cymorth

Mae llawer iawn o ardaloedd ac ynysyoedd yn parhau heb fwyd, dŵr ac ynni ac mae ymgyrch ddyngarol anferthol eisoes ar y gweill.

Dywedodd yr Arlywydd Benigno Aquino mai adfer cysylltiadau ynni a thrafnidiaeth mewn ardaloedd gwledig ydi’r flaenoriaeth er mwyn sicrhau cymorth i’r rhai sydd wedi dioddef yno.

Mae llongau ac awyrennau Americanaidd wedi cael eu hanfon i’r Philippines ar gais lllywodraeth yr ynysoedd er mwyn cefnogi’r gwaith dyngarol.

Fietnam

Bydd teiffŵn Haiyan yn cyrraedd gogledd Fietnam yn ystod y dydd ond mae’r gwynt wedi gostegu rhyw fymryn erbyn hyn.

Roedd y gwyntoedd yn chwythu ar gyflymder o 147milltir yr awr dros y Phillipines dydd Gwener ond bellach mae nhw’n chwythu ar gyflymder o 103mya ac yn gwanhau yn raddol.