Rob Ford, y Maer (CCA 2.0)
Mae Maer Toronto yng Nghanada wedi gwrthod ymddiswyddo er iddo gyfadde’ am y tro cyntaf ei fod wedi cymryd crac cocên.

Dywedodd Rob Ford ei fod yn caru ei swydd a bod rhaid iddo fynd yn ôl i weithio ar unwaith “er mwyn y trethdalwyr”.

Fe ddywedodd ei fod wedi cymryd y crac pan oedd yn feddw iawn.

Newid ei stori

Ym mis Mai y dechreuodd sïon fod y Maer wedi cael ei ddal ar fideo yn cymryd crac.

Er bod Rob Ford wedi mynnu i ddechrau nad oedd y fideo yn bod, cafodd ei orfodi i newid ei stori yr wythnos ddiwetha’ wedi i’r heddlu ddweud eu bod nhw wedi cael gafael ar gopi o’r fideo yn ystod ymchwiliad cyffuriau yn erbyn cyfaill iddo.

Nid dyma’r tro cyntaf i’r gwleidydd poblogaidd, a gafodd ei ethol yn faer dair blynedd yn ôl, orfod cyfaddef defnyddio cyffuriau.

Yn ystod ei ymgyrch i ddod yn faer, fe wnaeth o gyfaddef cael ei arestio am fod ym meddiant mariwana yn Florida yn 1999.

Meddwi

Dros y penwythnos hefyd, bu’n rhaid iddo ymddiheuro am fod yn feddw mewn gŵyl ym mis Awst ac yn ystod dathliadau Dydd Sant Padrig y llynedd dywedodd ei fod “ychydig allan o reolaeth” pan welwyd o’n simsan ar ei draed ac yn rhegi ar ei gynorthwywyr.

Mae’r maer hefyd wedi cael ei gyhuddo o wneud ystum anweddus o’i gar ac anfon negeseuon testun wrth yrru.

Ond, cyn y datgeliadau diweddara’ am crac, roedd ei boblogrwydd ar gynnydd, ac yntau’n cael ei weld yn sefyll tros y bobol gyffredin.