Chris Grayling, yr Ysgrifennydd Cyfiawnder
Fe fydd miloedd o staff y gwasanaeth prawf yn parhau gyda streic 24 awr heddiw yn erbyn cynlluniau’r Llywodraeth i breifateiddio’r gwasanaeth.

Fe wnaeth aelodau o Gymdeithas Genedlaethol y Swyddogion Prawf (Napo) yng Nghymru a Lloegr gerdded allan o’r gwaith am hanner dydd ddoe.

Mae’r undeb yn gwrthwynebu cynigion yr Ysgrifennydd Cyfiawnder, Chris Grayling, i drosglwyddo’r rhan fwyaf o’r gwasanaeth prawf i gwmnïau preifat fel G4S a Serco.

Dim ond tair gwaith cyn hyn y mae gweithwyr y gwasanaeth wedi streicio mewn 101 o flynyddoedd.

Y cefndir

Dywedodd y Weinyddiaeth Gyfiawnder bod tua 4,000 o weithwyr – neu 22% o staff y gwasanaeth prawf ar streic .

Y streic yw’r diweddaraf mewn cyfres o weithredu diwydiannol ar hyd a lled y DU wedi i ddiffoddwyr tân, staff y swyddfa bost a gweithwyr prifysgol streicio’n ddiweddar.

Mae pecyn gwerth £450 miliwn o gytundebau wedi cael ei gynnig i sefydliadau yn y sector preifat a gwirfoddol a fyddai’n cynnwys goruchwylio 225,000 o droseddwyr sy’n isel a chanolig eu risg pob blwyddyn.

Barn yr undeb

Dywedodd Ysgrifennydd Cyffredinol undeb Napo, Ian Lawrence: “Rydym yn credu, yn ogystal â bod yn fygythiad i delerau ac amodau ein haelodau, y byddai’r gymuned mewn perygl wrth ddefnyddio darparwyr sydd heb eu profi.”