Carl Sargeant
Fe fydd Carl Sargeant, y Gweinidog Tai ac Adfywio, yn ymweld â Sgwâr Loudan yng Nghaerdydd heddiw, er mwyn nodi cwblhau gwaith adnewyddu gwerth £13m.

Mae’r gwaith yn Nhre Bute, yn cynnwys tai fforddadwy, canolfan iechyd fodern, a chanolfan gymunedol newydd sbon.

Fe gafodd Sgwâr Loudon ei ddatblygu gyntaf yn y 1960au, ond fe ddirywiodd dros y degawdau oddi er hynny.