Y llun ail-greu o Susanne Llewellyn-Jones (Heddlu De Cymru)
Mae Heddlu De Cymru wedi cyhoeddi llun gwneud o ddynes a ddiflannodd fwy na 33 o flynyddoedd yn ôl.

Mae’r llun yn dangos sut y gallai Susanne Llewellyn-Jones fod yn edrych erbyn hyn.

Fe ddiflannodd hi ym mis Ebrill 1980 ar ôl i’w gŵr fynd â hi i orsaf rheilffordd Caerdydd i ddal trên i Lundain. Dyna’r tro diwetha’ iddi gael ei gweld.

Fe ddywedodd yr heddlu fod tîm o dditectifs yn edrych eto ar yr achos – maen nhw’n adolygu pob achos sydd heb ei ddatrys o dro i dro.

Holi dyn

Ond maen nhw hefyd wedi datgelu eu bod wedi holi dyn 68 oed o Fro Morgannwg ar ôl iddo ddod oi wirfodd i Orsaf Heddlu Bae Caerdydd ddydd Llun.

Ar hyn o bryd, mae’r ditectifs yn ceisio olrhain pobol a fyddai wedi adnabod Susanne Llewellyn-Jones yn 1980 – byddai bellach yn 68 oed.